Dwdl data

Cefndir

Fel ystadegydd gyda diddordeb mewn polisi cyhoeddus a sut mae gwybodaeth yn cael ei gyfarthrebu, rwyf yn hoff iawn o’r math o ddelweddau data sydd yn aml i’w gweld ar wefanau fel fivethirtyeight, yr new york times a’r guardian.

Rwy’n credu fod delweddau data llwyddianus yn galluogi i unigolion archwilio data eu hunain, gan ennyn diddordeb i bynciau hefyd.

Mewn ymgais i wella fy sgiliau cyflwyno data, rwyf wedi bod wrthi yn trio dysgu sut i ddefnyddio y rhaglen ystadegol “R”. Tra fod yna raglenni eraill sydd cystal ar gyfer gweithio gyda data mae “R”, fel rhaglen mynediad agored, yn cymryd mantais o gymuned raglennu gweithgar iawn. Mae’r gymuned yma yn rhagorol am greu technegau ethaf syml i gynhyrchu delweddau o safon uchel.

Un o’r datblygwyr mwyaf blaengar yw Yihui Xie. Ef oedd o’n un o’r bobl allweddol tu ol “blogdown”, pecyn sy’n galluogi rhywun i greu gwefanau a blogiau drwy ddefnyddio “R”.

Gan dilyn yr canllawiau yma , gan gyferirio hefyd at flog yma gan Amber Thomas (y dyluniad y penderfynais i ei gopïo) fe wnes i lwyddo creu y wefan yma drwy ddefnyddio R yn unig.

Os oes diddordeb gennych chi mewn delweddu data gallaf argymell llyfrau (a trydar) Alberto Cairo a Andy Kirk, dwi’n hoff iawn o waith y ddau ohonynt.