Dwdl data

Siom munud olaf

Mae bod yn gefnogwr Gleision Caerdydd yn aml yn gallu bod yn brofiad eitha lan a lawr. Roedd fy mhen yn fy nwylo ar ôl tri gêm gyntaf tymor 2018-19, wrth i’r tîm lwyddo tair gwaith o’r bron, i daflu’r gemau i ffwrdd yn yr eiliadau olaf. Felly fe benderfynais groesholi’r data - pa mor anarferol oedd y canlyniadau hyn?

Mae’r graff isod yn dangos faint ar y “blaen” / “tu nol” oedd Caerdydd ym mhob munud o bob gêm y tymor hwn. Mae gan gemau cartref linellau solet a gemau i ffwrdd linellau dotiog. Gallwch chi hofran dros y graff i gael manylion am bob tro y gwaneth rhywun sgorio yn y gêm.

Yn ogystal, gallwch chi ddewis pa gemau rydych chi am eu harddangos trwy glicio arnynt yn y rhestr islaw’r graff.

Mae dau beth sy’n amlwg iawn o edrych ar y tri gêm gyntaf yna.

  1. Ym mhob gêm roedd Gleision Caerdydd ymlaen yn y 77fed

  2. Yn erbyn Leinster (15 pwynt) a Zebre (21 pwynt), llwyddodd y Gleision i daflu mantais sylweddol i ffwrdd.

A yw hyn yn anarferol? Y tymor diwethaf (2017-18) fe gafodd y Gleision un o’u tymhorau gorau mewn cof diweddar. Gyda rhai perfformiadau da iawn yn y gynghrair, llwyddodd y tim i gyrraedd Cwpan Pencampwyr Ewrop ar gyfer 2018-19, ac fe ennillodd y tim Cwpan Her Ewrop (gem fythgofiadwy yn erbyn Nghaerloyw yn Bilbao!). Er hynny, gwnaeth y tim orffen yn 4ydd allan o 7 yn eu cynhadledd yng nghynghrair y Pro 14, gan ennill 11 gêm a cholli 10.

Isod ceir plot sy’n dangos y gemau yn nhymor 2017-18.

Ymddengys fod y graff hwn yn rhoi ychydig o gymariaethau diddorol. Yn 2017-18, collodd y Gleision ddwy gêm yn unig lle roedden nhw ar y blaen yn eithaf hwyr:

  1. Cheetahs i ffwrdd lle dyfarnwyd cais cosb ar ôl 80 munud

  2. Gem “gartref” yn erbyn y Gweilch yn stadiwm mileniwm yn ystod dydd y farn pan sgoriodd Dan Biggar gôl adlam yn y 77fed munud i ennill yn erbyn y Gleision oedd heb lawer o’u tim cyntaf (gorffwyswyd llawer o chwaraewyr cyn rownd derfynol cwpan Her Ewrop).

Yn ail, 10 pwynt oedd y mantais fwyaf iddynt golli (yn erbyn Glasgow gartref ac yna i ffwrdd yn Glasgow).

Mae’r ffaith fod y tim eisoes wedi gweld 3 colled hwyr a manteision o 15 a 21 o bwyntiau yn cael ei taflu i ffwrdd yn nhymor 2018-19 yn awgrymu nad yw’r tîm mor dda am gau gêm nag yr oeddynt y tymor diwethaf. Fodd bynnag, mae hwn yn sampl bach iawn a gallai hap a damwain esbonio’r canlyniadau yma. Y peth pwysig yw fod y tîm yn chwarae rygbi da, ac yn fwy nag erioed, mae’n anodd gwybod sut y bydd y gêm yn dod i ben nes bydd y chwiban olaf yn mynd.