Dwdl data

Twitosffer y Senedd

Pwy sy’n cysylltu â phwy?

Mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi newid sut mae rhai aelodau etholedig yn cysylltu â’i etholwyr a gyda’i gilydd. Mae twitter, facebook ac Instagram nawr yn gallu bod yr un mor bwysig a datganiadau i’r wasg, cyfarfodydd lleol a chylchlythyrau.

Un o sgileffeithiau y datblygiad yma yw fod yna fwy o gyfle i ni weld beth yn union mae gwleidyddion yn ei ddweud. Er fod yna lot o gyfleuon i wleidyddion a phleidiau gwleidyddol i ddefnyddio hysbysebion er mwyn targedu grwpiau gwahanol mae unrhyw negeseuon cyhoeddus mae nhw’n eu rhoi ar eu ffrwd trydar (twitter feed) ar gael i bawb.

Mae’r darn yma o waith yn edrych ar drydariadau Aelodau Cynulliad, pa mor aml mae nhw yn cyfeirio at ei gilydd, eu agweddau at drydaru, pwy arall sy’n cael eu cyfeirio atynt a pha drydariad oedd fwyaf poblogaidd.

Pa mor aml mae ACau yn cyfeirio at ei gilydd?

Yn ystod mis tachwedd 2018 fe wnes i gadw cofnod o bob trydariad gan bob AC yn y cynulliad gan ddefnyddio’r pecyn twitteR. Ar ôl cael pob un o Trydariadau y mis fe wnes i ddefnyddio’r data yma i weld faint o weithiau wnaeth pob aelod gyfeirio at aelod arall (h.y. rhoi ei ‘handle’ nhw mewn neges). Gyda’r data yma roedd o’n bosib defnyddio’r pecyn visNetwork i greu darlun data o faint oedd pob aelod yn trydaru a sut oeddynt yn cyfathrebu â’i gilydd (dydy ail-drydaru dim yn rhan o’r ymchwil yma.)

Mae maint y cylch yn dibynnu ar faint o drydaru mae’r aelod wedi ei wneud, mae lled y llinell sy’n cysylltu’r aelodau yn amrywio yn ôl y nifer o weithiau y gwnaeth yr aelodau hynny gyfeirio at ei gilydd. Mae modd clicio ar y cylchoedd a goleuo pwy oedd mewn cysylltiad gyda phwy ac mae hefyd modd llusgo’r cylchoedd er mwyn symud y darlun.

Mae yna nifer o batrymau diddorol yn dod allan o’r data yma. Mae’n glir fod aelodau Llafur yn tueddu i drydaru ei gilydd yn lle trydaru aelodau o bleidiau llai. Mae aelodau y pleidiau eraill yn dueddol o drydaru ei gilydd ond dydy’r patrwm ddim mor glir. A does na’r un aelod arall yn sgwrsio (ar twitter oleiaf) efo Neil Hamilton.

Mae cyd-destun y data yma yn bwysig. Yn gyntaf mae’r ffaith fod cystadleuaeth arweinyddiaeth y Blaid Llafur yn mynd ymlaen yn ystod yr un mis yn weddol glir gan fod lot o negeseuon yn mynd i’r ymgeiswyr, Mark Drakeford, Eluned Morgan a Vaughan Gething. Mae Alun Davies yn arbennig i weld yn cyfeirio at Eluned Morgan ar bob cyfle mae o’n ei gael. Yn ogystal â digwyddiadau gwleidyddol mae hefyd yn bosib weld sut mae pobl yn defnyddio trydar yn gymdeithasol rhwng ei gilydd, er enghraifft mae’r negeseuon at Nick Ramsey bron i gyd yn ei longyfarch ar enedigaeth ei faban newydd.

Agweddau at drydaru

Yn bersonol dwi hefyd yn ffeindio fo’n ddiddorol i edrych ar sut mae aelodau gwahanol yn defnyddio trydar. Dwi’n credu i mi allu diffinio oleiaf tri gwahanol fethodoleg o ddefnyddio trydar ymysg aelodau cynulliad.

  1. Mae yna rhai aelodau sydd yn cyfeirio at aelodau eraill drwy’r amser ac hefyd yn cael lot o aelodau eraill yn cyfeirio atyn nhw. Pobl fel Lee Waters, Bethan Sayed a Dawn Bowden. Mae rhain i weld yn defnyddio trydar er mwyn cael sgyrsiau cyhoeddus ac i weld yn defnyddio trydar yn aml iawn.

  2. Mae yna rhai aelodau sydd heb gyfeirio at unrhyw aelodau eraill. Mae’r grwp yma yn cynnwys Carwyn Jones, Huw Irranca Davies a Ken Skates. Mae pobl eraill yn cyfeirio atyn nhw, yn enwedig at gyfri @fmwales Carwyn Jones, ond dydyn nhw ddim i weld yn defnyddio trydar ar gyfer trafodaethau gyda aelodau etholiedig eraill.

  3. Dwi hefyd yn credu fod yna grwp sydd yn cyfeirio at aelodau eraill ond bron byth yn cael pobl yn cyfeirio yn ôl atyn nhw. Mae rhain yn cynnwys Gareth Bennett a Neil McEvoy. O bosib mae rhain yn cyfeirio at eraill fel fordd o wneud pwynt gwleidyddol yn lle fel fordd i dechrau sgwrs wleidyddol.

Pwy arall mae ACau yn cyfeirio atynt?

Yn ogystal ag edrych ar faint mae aelodau wedi cyfeirio at ei gilydd medrwn hefyd edrych ar pwy arall sy’n rhan o twitosffer y cynulliad. Mae’r tabl yma yn dangos pa ‘handles’ oedd yn cael y mwyaf o gyfeiriadau.

handle trydar cyfeiriadau
mark4leader 75
WelshLabour 55
Plaid_Cymru 46
WelshGovernment 32
AssemblyWales 26
WelshConserv 24
tfwrail 23
DizzyDoodler 19
UKLabour 16
Elnacionalcaten 15
WelshYouthParl 15
iestyntdavies 14
adrianmasters84 13
peoplesvote_uk 13

Gan gofio bod yr ymgyrch arweinyddol dal i fynd yn ei flaen ar y pryd, dydy’r faith fod @mark4leader yn boblogaidd iawn ddim yn syndod mawr (ac yn esbonio pam nad oes mwy o negeseuon at ei gyfeiriad traddodiadol). Mae lot hefyd yn cyfeirio at gyfrifau pleidiau gwleidyddol, sefydliadau llywordraethol, ymgyrchwyr, gwleidyddion eraill, newyddiadurwyr a chyfrifau elusenau.

Y trydariad mwyaf poblogaidd

Mae hefyd modd edrych ar y nifer o aildrydariadau a ‘likes’ mae aelodau cynulliad wedi eu cael.

Wrth edrych nol ar y mis y trydariad mwyaf poblogaidd oedd hwn. Fe gafodd ei aildrydaru 1,171 o weithiau a’i hoffi 3,051 o weithiau.