Dwdl data

Twitosffer y senedd - 2

Ar ôl ysgrifennu erthygl am sut mae aelodau cynulliad yn defnyddio Trydar fe ofynnodd rhywun a fyddai’n bosib diweddaru’r erthygl yn weddol reolaidd. Gwnes i benderfynu trio creu rhaglen RShiny (ar ôl cael tipyn o gyngor) a fyddai’n gadael i bobl ddadansoddi Trydar ACau dros amser, pryd bynnag y maen nhw eisiau.

Mae’r teclyn yma yn gadael i chi benderfynu pa ddyddiadau sydd o ddiddordeb (o ddechrau 2019 ymlaen) a wedyn fedrwch chi weld pedwar tudalen wybodaeth:
1. Yr 20 hashnod sydd wedi cael ei ddefnyddio fwyaf gan ACau yn y cyfnod.
2. Pa iaith mae ACau yn defnyddio i drydaru, wedi eu trefnu yn ôl y ganran o’r Gymraeg. 3. Darlun o’r rhwydwaith o gysylltiadau rhwng ACau, gyda thrwch y llinell gyswllt yn dibynnu ar y nifer o weithiau mae un aelod yn cyfeirio at neu yn aildrydaru aelod arall.
4. Tabl o holl drydariadau’r cyfnod a ddewiswyd.

Fedrwch agor yr ap yn allanol yn fama os ydych chi eisiau ei agor mewn tudalen llawn.

hashnodau

Trwy ddefnyddio’r gwahanol dudalennau gyda’i gilydd mae modd cael dealltwriaeth well o beth sy’n digwydd yng ngwleidyddiaeth Cymru. Er enghraifft os ydych yn edrych ar fis Ionawr mae’n ddiddorol fod yr hashnod #DRS wedi cael ei ddefnyddio 29 o weithiau gan aelodau Llafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru. Doedd dim syniad gyda fi hashnod am beth oedd hwn, ond trwy roi “#DRS” i mewn i’r filter “cynnwys” yn y tab chwilio mae’n hawdd ffeindio allan ei fod o’n cyfeirio at “deposit return scheme”.

iaith

Wrth edrych ar y tabl iaith ar gyfer mis Ionawr mae’n eithaf trawiadol fod yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas yn trydaru mwy mewn ieithoedd “eraill” nag yw e drwy gyfrwng y Gymraeg. Gwnaeth hyn i mi gwestiynu safon y gwaith mae Twitter yn ei wneud ar ddosbarthu ieithoedd, ond, os ydych yn mynd i’r tab “chwilio”, yn rhoi “Dafydd Elis Thomas” i mewn fel filter enw yr aelod ac yn trefnu yn ôl “iaith” fe wnewch chi weld gymaint y mae’r Arglwydd yn aildrydaru deunydd sydd wedi ei ysgrifennu yn wreiddiol yng Nghatalaneg.

cysylltiadau

Mae tab cysylltiadau mis Ionawr yn dangos fod Neil McEvoy wedi cyfeirio at neu aildrydaru Mark Drakeford nifer fawr o weithiau (mae’r cyswllt llwyd yna yn llawer mwy trwchus nag unrhyw gysylltiad arall) ond ni wnaeth Mark Drakeford gyfeirio yn ôl at Neil McEvoy o gwbl. Wrth fynd i’r tab “chwilio” a rhoi “Neil McEvoy” fewn fel ffilter “Enw” ac “@MarkDrakeford” i mewn fel ffilter “Cynnwys” mae modd gweld fod Neil McEvoy yn anhapus iawn ag ymateb y Prif Weinidog i un o’i gwestiynau yn y Siambr, a roedd o’n aildrydaru a sgwrsio gyda lot o bobl gan gwyno am Mark Drakeford a chyfeirio ato bob tro.

datblygiadau

Byddaf yn trio diweddaru’r data yn rheolaidd. Os oes gennych unrhyw syniadau am asesiad yr hoffech ei ddangos plîs rhowch wybod.